Highlights from July Meeting
Highlights from the Community Council Meeting July 2026
Due to the resignation of Cllr Lisa Overington, the council are currently advertising to fill the vacancy by Co-option. Please see our website for more information and how to apply.
The Best Kept Community entries were all viewed by the assessors on 22nd June and the announcements will be made at the Day of Celebration - Fest Day on 11th July, 11am Penyffordd War Memorial Institute. All welcome to the event.
Another busy meeting for planning applications where 7x were reviewed and considered.
The council are supporting Woodswork in the showing of the ‘National Emergency Climate Change Briefing’. Two sessions will be held at the Penyffordd War Memorial Institute.
Saturday 11th July at 2pm and Monday 13th July at 7pm
The assessment for the communities entry to Wales in Bloom will be undertaken 15th July.
Extremely disappointing to report there has been vandalism to the cycle repair station at The Millstone Play Area. The replacement parts were approx £400, however, the council has managed to repair. The police have been informed and CCTV is being reviewed.
The council are still working towards taking on the land lease for the Millstone Allotments.
Summer Playscheme 2026. 20th July – 28th August, 2.00pm – 4.00pm at The Millstone Play Area
The council are in recess for August and therefore the date of the next meeting will be 9th September 2026
You can view the full draft minutes on our Agenda & Minutes page
The council will endeavour to have these highlights translated to Welsh via HeloBlod and published as soon as reasonably possible
Uchafbwyntiau Cyfarfod y Cyngor Cymuned, Gorffennaf 2026
v Oherwydd ymddiswyddiad y Cynghorydd Lisa Overington, mae'r cyngor ar hyn o bryd yn bwriadu llenwi’r sedd wag drwy Gyfethol. Gweler ein gwefan am ragor o wybodaeth a sut i ymgeisio.
v Cafodd yr holl geisiadau ar gyfer cystadleuaeth y 'Gymuned Daclusaf' eu harchwilio gan yr aseswyr ar 22 Mehefin, a bydd y canlyniadau’n cael eu cyhoeddi yn y Diwrnod Dathlu – 'Fest Day' – ar 11 Gorffennaf am 11am yn Sefydliad Cofeb Ryfel Pen-y-ffordd. Mae croeso i bawb i'r digwyddiad.
v Cyfarfod prysur arall ar gyfer ceisiadau cynllunio, lle adolygwyd ac ystyriwyd saith ohonynt.
v Mae'r cyngor yn cefnogi Woodswork i ddangos y 'Crynodeb Cenedlaethol ar yr Argyfwng Newid Hinsawdd'. Cynhelir dwy sesiwn yn Sefydliad Cofeb Ryfel Pen-y-ffordd.
v Dydd Sadwrn, 11 Gorffennaf am 2pm, a dydd Llun, 13 Gorffennaf am 7pm
v Cynhelir yr asesiad ar gyfer cais y cymunedau i Cymru yn ei Blodau ar 15 Gorffennaf.
v Siomedig yw gorfod adrodd bod fandaliaeth wedi digwydd i'r orsaf trwsio beiciau yn Ardal Chwarae’r Millstone. Roedd y rhannau newydd yn costio tua £400; fodd bynnag, mae'r cyngor wedi llwyddo i wneud y gwaith trwsio. Mae'r heddlu wedi cael gwybod ac mae'r CCTV yn cael ei adolygu.
v Mae'r cyngor yn dal i weithio tuag at gymryd drosodd y brydles tir ar gyfer Rhandiroedd y Millstone.
v Cynllun Chwarae Haf 2026. 20 Gorffennaf – 28 Awst, 2pm–4pm, yn Ardal Chwarae’r Millstone
v Mae'r cyngor ar egwyl yn ystod mis Awst, ac felly dyddiad y cyfarfod nesaf fydd 9 Medi 2026.
Gallwch weld y cofnodion drafft llawn ar ein gwefan: www.penyfforddcouncil.org
Bydd y cyngor yn ymdrechu i gyfieithu'r uchafbwyntiau hyn i'r Gymraeg drwy Helo Blod a'u cyhoeddi cyn gynted â phosibl.